Ryseitiau Cig Eidion Cymru

Chilli swmpus gyda chorizo, oren… a siocled

  • 150Mun
  • 6
  • De Americanaidd
  • Stecen Brywsio
Chunky Christmas Chilli with chorizo, orange and chocolate

Dull

  1. 1
    Cynheswch y popty ymlaen llaw i Farc Nwy 4, 180ºC, 375ºF.
  2. 2
    Rhowch yr holl gynhwysion mewn pot caserol mawr a all wrthsefyll gwres (ar wahân i’r siocled).
  3. 3
    Trowch yn dda gan gymysgu’r holl gynhwysion.
  4. 4
    Rhowch y pot mewn popty a gynheswyd ymlaen llaw am tua 2 awr nes bydd y cig yn hyfryd a thyner.
  5. 5
    Ychwanegwch y siocled at y gymysgedd tua 20 munud cyn gorffen coginio.
  6. 6
    Gweinwch mewn powlenni gyda reis a salad gaeafol, neu gallwch ddipio bara pitta ynddo.

Ryseitiau eraill efallai yr hoffech

Bydd angen

  • • 900g (2lb) o giwbiau stecen cig eidion Cymru heb lawer o fraster i’w brwysio (stecen brwysio e.e. chuck neu blade)
  • • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n ddarnau
  • • 1 tsili coch, heb hadau ac wedi’i dorri
  • • 1 clof o arlleg, wedi’i wasgu
  • • 400g (oddeutu) tun o domatos wedi’u torri
  • • 400g (oddeutu ) tun o ffa Ffrengig, wedi’u draenio a’u rinsio
  • • 150ml (¼pt) o win coch
  • • 150ml (¼pt) o stoc cig eidion
  • • 5ml (1llwy de) o bowdwr tsili
  • • 5ml (1llwy de) o gwmin
  • • 1 oren, y sudd a’r croen
  • • 50g (2oz) selsig o fath chorizo, wedi tynnu'r croen a'i dafellu
  • • 4 ciwb o siocled tywyll

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 356kcal
  • Egni 1496kj
  • Braster 12g
  • Braster Dirlawn 5.2g
  • Halen 1.3g
  • Haearn 6.1mg
  • 5-y-dydd 1.5
this is meat stuff