Ryseitiau Cig Eidion Cymru

Salad cig eidion a marchruddygl

  • 15Mun
  • 2
  • Prydeinig
  • Stec
Salad cig eidion a marchruddygl

Dull

  1. 1
    Coginiwch y tatws newydd mewn sosban o ddwr berwedig am 10-20 munud
  2. 2
    Yn ystod 5 munud olaf yr amser coginio ychwanegwch y ffa i'r sosban
  3. 3
    Diferwch nhw a'u gadael i oeri ychydig. Ychwanegwch y wiwnsyn wedi ei dafellu.
  4. 4
    Yn y cyfamser coginiwch y stêcs syrlwyn eidion coch ar radell boeth gyda phupur du drostynt am tua 8 munud (wedi eu coginio'n ganolig). Neu gweinwch y salad gyda thafelli o gig eidion oer wedi eu coginio.
  5. 5
    Cymysgwch y parsli gyda'r crème fraiche a'r saws marchruddygl. Cymysgwch gyda'r tatws, y ffa a'r winwnsyn coch, a gweinwch gyda dail salad cymysg a bara crystiog.

Ryseitiau eraill efallai yr hoffech

Bydd angen

  • 2 stecen syrlwyn eidion coch (neu gig eidion oer wedi ei goginio)
  • 225g (8oz) tatws newydd, wedi eu torri'n hanner
  • 100g (4oz) ffa dringo
  • ½ winwnsyn coch, wedi ei dafellu'n denau
  • Pupur du
  • 30ml (2 lwy fwrdd) parsli ffres, wedi ei dorri'n fân
  • 120ml (8 llwy fwrdd) crème fraiche
  • 15-30ml (1-2 llwy fwrdd) saws marchruddygl (horseradish)

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 590kcal
  • Egni 2456kj
  • Braster 39.4g
  • Braster Dirlawn 24.3g
  • Halen 0.73g
  • Haearn 3.1mg
  • 5-y-dydd 1
this is meat stuff