09 SEP

Lansio ymgyrch hysbysebu aml gyfrwng ar gyfer y tymor newydd

Mae ymgyrch hysbysebu aml-gyfrwng newydd sy’n clodfori rhinweddau Cig Oen Cymru yn cael ei lansio heddiw gyda’r neges syml – ‘Mae'n werth pob tamaid’.

 

Mae’r ymgyrch, sy’n costio £800,000, yn cynnwys hysbysebion teledu, ar-lein ac yn y wasg sy’n tynnu sylw at ansawdd Cig Oen Cymru ac yn pwysleisio pa mor hawdd yw ei goginio.

 

Ar yr un pryd, mae'r asiantaeth hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru, yn lansio gwefan sydd wedi’i hadnewyddu ac sydd wedi’i hanelu at ddefnyddwyr www.eatwelshlamb.org.uk – sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth werthfawr fel ryseitiau fideo, cynghorion ynglŷn â choginio a chyngor am faeth.

 

Mae hefyd yn cymell pobl i gyfranogi wrth rannu ryseitiau trwy dudalen Facebook newydd a thrwy Twitter.

 

Dywedodd Laura Dodds, Rheolwraig Datblygu'r Farchnad gyda HCC, fod y slogan ar gyfer yr ymgyrch – ‘Mae’n werth pob tamaid’ – yn cyfeirio at y ffaith fod Cig Oen Cymru’n hawdd ei goginio ac yn caniatáu i bobl dreulio mwy o amser gyda’u teulu a ffrindiau.

 

“Mae amser mor brin y dyddiau hyn – mae llawer ohonom yn gweithio oriau ychwanegol ac mae popeth yn un rhuthr gwyllt,” meddai.

 

“Nod ein hymgyrch hysbysebu newydd yw dangos pa mor gyflym a hawdd yw coginio amrywiaeth eang o seigiau Cig Oen Cymru . Mae’n golygu bod pobl yn cael cyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus a hefyd yn cael amser i dreulio amser gwerthfawr gyda’u hanwyliaid.”

 

Dangosodd ymchwil gan HCC fod siopwyr a brynodd gig oen yn tueddu i brynu’r un math o gig drwy’r amser, yn hytrach na manteisio ar yr amrywiaeth y mae Cig Oen Cymru yn ei gynnig.

 

Dywedodd tri chwarter y defnyddwyr eu bod yn prynu cymalau a dywedodd dau o bob tri eu bod yn prynu golwython.  Dim ond traean oedd yn prynu pethau fel briwgig, stêcs a ffiledau.

 

“Mae ein hymgyrch ar draws yr holl gyfryngau yn anelu at ddangos fod mwy i'r cig na’r darnau traddodiadol i’w rhostio – mae yna amrywiaeth anhygoel o doriadau gwahanol o Gig Oen Cymru i greu sawl gwahanol fath o brydau blasus,” meddai Miss Dodds.

 

Er mwyn ysbrydoli defnyddwyr fwyfwy, mae HCC wedi cyhoeddi taflenni ryseitiau newydd ar gyfer Cig Oen Cymru a chafodd y rhain eu dosbarthu ymhlith cigyddion annibynnol a’r archfarchnadoedd.  Mae’r ryseitiau hyn yn cynnwys prydau syml y mae modd eu paratoi’n gyflym.

 

“Mae ryseitiau fel cytledi Cig Oen Cymru gyda chrwst pupur a salsa mint a phigoglys yn llawn blas ac mae modd eu paratoi mewn chwarter awr” meddai Miss Dodds.

 

Mae’r ymgyrch newydd yn cyd-fynd â lansio dyluniad newydd i wefan y defnyddiwr, www.eatwelshlamb.org.uk

 

Mae’r wefan hon yn cynnwys ryseitiau, fideos a chystadlaethau. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau â phobl fel ffermwyr o Gymru a phen-cogyddion amlwg, a chynghorion gan gigyddion – ac mae gan bawb a phopeth gysylltiad agos â Chig Oen Cymru.

 

Yn ogystal, mae’r wefan yn rhoi gwell cyfle i ddefnyddwyr ryngweithio â safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, a’i gwneud yn haws i bobl sy’n mwynhau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru i rannu eu hoff ryseitiau trwy Facebook a Twitter.

 

Dywedodd Miss Dodds: “Bydd y wefan ar ei newydd wedd yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael hyd i rysáit sy’n addas i’r digwyddiad y maen nhw’n paratoi ar ei gyfer, un ai digwyddiad arbennig neu bryd o fwyd bob-dydd a rhannu’r profiad hwnnw â ffrindiau a theulu.”

 

Yn ogystal, mae modd gweld yr hysbysebion teledu newydd ar gyfer Cig Oen Cymru ar You Tube trwy’r dolenni a ganlyn:

 

http://www.youtube.com/user/PGIWelshLamb?feature=mhee#p/a/u/0/D3zTxeTw18U ar gyfer y fersiwn Saesneg a:

 

http://www.youtube.com/user/PGIWelshLamb?feature=mhee#p/a/u/0/5Sa6DvRY5jE ar gyfer yr hysbyseb Gymraeg.

Gweld pob stori newyddion

Tanysgrifiwch i’n CYLCHLYTHYR

Derbyniwch y diweddaraf ...

Cofrestrwch a chael y ryseitiau, newyddion a chystadlaethau diweddaraf